Dathlwch yr Ŵyl Archeoleg!
Dathlwch yr Ŵyl Archeoleg gyda Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy!
Sut le oedd Conwy filoedd o flynyddoedd yn ôl?
Ymunwch â ni am ddiwrnod archaeoleg ddifyr yn llawn o waith ymarferol!
📍 Gorffennaf 23 a 25 ⏲️ 2-4pm
📍 Gorffennaf 26 ⏲️ 10am-12pm
🗺️ Canolfan Ddiwylliant Conwy
Cofiwch ddod draw i gael blas ar fod yn archeolegydd – byddwn yn cynnwys y gwaith celf rydych chi’n ei greu â’r artist, Elly Strigner, yn arddangosfeydd treftadaeth Canolfan Ddiwylliant Conwy’n ddiweddarach eleni.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae croeso cynnes i bawb o bob oed.