Diwrnod VE Cymunedol yn Llyfrgell Llanrwst!
Mercher 7 Mai yn Llyfrgell Llanrwst
Dewch i ymuno â ni i gofio 80 mlynedd ers Diwrnod VE!
Digwyddiad cymunedol, anffurfiol.
10am-3pm Croeso Cynnes
Te, coffi a bisgedi ar gael AM DDIM. Rhowch gynnig ar jig-so Diwrnod VE, neu fwrw golwg dros y papurau newydd, neu ymlacio a chael sgwrs.
10am-7pm Eitemau Hanesyddol
Arddangosfeydd o greiriau hanesyddol, lluniau teuluol a llyfrau hanes lleol – ar gyfer pob https://conwyculture.com/secretadmin/entries/events/130727-community-ve-day-at-llanrwst-library?site=secondary#oed.
10:30am-12pm Darllen ar-y-Cŷd
Byddwn yn darllen a gwrando ar stori a darn o farddoniaeth gyda’n gilydd – croeso i bawb.
2-3pm Sgwrs gan Daniel Casey
Daniel Casey yn trafod sut wnaeth ymchwilio ar gyfer ei lyfrau Defining Moments and Dancing Between Raindrops.
5:30-6:30pm Clwb Ffrindiau Darllen (11-15oed)
Sesiwn arbennig gyda Daniel Casey yn trafod Llenyddiaeth Amser Rhyfel.
Cysylltwch â ni os hoffech gyfrannu tuag at y digwyddiad, neu rannu lluniau lleol neu greiriau. Neu eu gadael gyda Staff y Llyfrgell erbyn 6 Mai.
01492 577 545 / llyfrgell.llanrwst@conwy.gov.uk