Sesiynau Crefft Artistiaid yn Llyfrgell Llanrwst gyda Creu Conwy!
Sesiynau Crefft Artistiaid yn Llyfrgell Llanrwst gyda Creu Conwy!
Ymunwch ag Alys yn Llyfrgell Llanrwst i ddathlu ein geiriau natur Cymraeg. Darganfyddwch fwy am yr anifeiliaid, y planhigion, y trychfilod a’r adar sydd gennym ni yma yng ngogledd Cymru a rhowch gynnig ar wneud gwestai trychfilod, llyfrau natur a mwy.
06/08 - 2-4yp
15/08 (2 sesiwn) - 10yb-12yp & 2-4yp
22/08 - 2-4yp
AM DDIM i oedran 4-11!
Cysylltwch i gadw’ch lle: llyfrgell.llanrwst@conwy.gov.uk / 01492 577545
#UKSPF #CreuConwy