Croeso Cynnes
Y gaeaf hwn, mae gan eich llyfrgell leol lawer i'w gynnig. Dewch i dreulio amser yn ein mannau cynnes, croesawgar a chefnogol.
Gall ein staff cyfeillgar a phroffesiynol eich helpu i fynd ar-lein a chael mynediad at wybodaeth ddefnyddiol.
- Ymlacio gyda llyfr
- Mwynhau ychydig o amser tawel
- Sgwrsio gyda ffrindiau
- Darllen y papur newydd
- Gwneud eich gwaith cartref
- Chwarae gêm neu wneud jig-so
| Mae diod cynnes a snac hefyd ar gael am ddim yn ystod yr amseroedd hyn: |
|---|
| Abergele - Dydd Mercher - 3:30pm - 6:30pm |
| Hwb Uwchaled Cerrigydrudion - Dydd Mawrth - 10:30am - 12:30pm |
| Bae Colwyn - Dydd Mawrth - 3:30pm - 6:30pm |
| Conwy - Dydd Mawrth - 3:30pm - 6:30pm |
| Bae Cinmel - Dydd Mercher - 2:00pm - 5:30pm |
| Llandudno - Dydd Iau - 3:30pm - 6:30pm |
| Llanfairfechan - Dydd Gwener - 10:45am - 12:45pm |
| Llanrwst - Dydd Mercher - 10:30am - 1:00pm |
| Penmaenmawr - Dydd Mawrth - 2:00pm - 4:30pm |
| Bae Penrhyn - Dydd Iau - 3:00pm - 5:30pm |