Conwy Culture CYM

Search website

Drysau Agored Conwy - Archifau Conwy

Canolfan Ddiwylliant Conwy - Dydd Gwener 13 Medi, 13:30 to Dydd Gwener 13 Medi, 15:30

Mae rhaglen Drysau Agored Cadw yn cael ei chynnal drwy gydol mis Medi, gan roi’r cyfle i chi ymweld â safleoedd a lleoliadau hanesyddol yn rhad ac am ddim!

Archifau Conwy

Dydd Gwener, 13 Medi.

Cyfle i weld tu ôl i’r llenni yng Nghanolfan Ddiwylliant Archifau Conwy

13:30 – 14:30

14:30 – 15:30

Ydych chi erioed wedi pendroni lle mae dogfennau ac arteffactau hanesyddol Cyngor Conwy yn cael eu cadw? Ymunwch â’r daith tu ôl i’r llenni hon i fynd lawr i’r storfa islawr yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, cyn dychwelyd i ystafell chwilio’r Archif i edrych ar ddogfennau gwreiddiol a chael cyfle i siarad gyda staff yr archif.

Copy of Open Doors 2024 1
Copy of Open Doors 2024