Sbotolau: Arddangosfa Gymysg Noson Agoriadol
Mae Sbotolau yn agor yn Llyfrgell Llandudno fis Hydref, gan ddod â gwaith artistiaid o Rwydwaith Artistiaid Conwy ynghyd.
Dewch draw i’r noson agoriadol ddydd Iau, 8fed o Hydref o 5.00 yh ymlaen i weld yr arddangosfa, cwrdd â rhai o’r artistiaid a mwynhau’r gwaith.
Bydd yr arddangosfa ar agor o 1af o Hydref 2026 tan 4ydd o Ionawr 2027. Croeso i bawb!