Canolfan Ddiwylliant Conwy
Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy ger waliau hynafol tref Conwy. Dewch i wybod am ddiwylliant, a threftadaeth y sir a mwy!
Croeso i Ddiwylliant Conwy
Rydyn ni yn gweithio ar ein gwefan ar hyn o bryd, cysylltwch â creu@conwy.gov.uk gydag unrhyw ymholiad.
Diwylliant Conwy
Darganfod treftadaeth a diwylliant a gynhelir neu a gefnogir gan Gyngor Sir Bwrdeistref Conwy
Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy ger waliau hynafol tref Conwy. Dewch i wybod am ddiwylliant, a threftadaeth y sir a mwy!
Mae'r tîm Allgymorth Diwylliant yn arwain ar gyflawni Creu Conwy - Tanio’r Fflam, Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’r sector creadigol ac mewn partneriaeth â chymunedau ledled y sir i gyflwyno gweithgaredd cyffrous a deniadol a arweinir gan y celfyddydau. Mae’r ffocws ar gefnogi lles a chreu profiadau diwylliannol bywiog i bobl leol ac ymwelwyr.
Cysylltwch â ni:
01492 576139
Rhestr o'n cyfleoedd presennol
Mae Creu Conwy Ifanc yn cynning gweithdai i blant, pobl ifanc a theuluoedd rhwng 0 a 25 oed.
Ymwelwch â'n gwefannau!
Mae’r Llwybr Cerfluniau yn rhan o brosiect Dychmygu Bae Colwyn sydd wedi’i ariannu gan gynllun Llefydd Gwych Cronfa Treftadaeth y Loteri. Comisiynwyd Theatr Byd Bychan i weithio gyda’r gymuned i greu’r gosodiadau cerfluniau. Nod y prosiect oedd cynnwys pobl ifanc a chreu celf gyhoeddus chwareus a diddorol dan themâu amgylcheddol a threftadaeth leol. Mae’r llwybr wedi’i ddatblygu gyda Phwyllgor Yn Ei Blodau Cyngor Tref Bae Colwyn gyda chymorth ariannol gan fferm wynt Gwynt y Môr.
Ymunwch â’r awdures leol Jo Perry i wrando arni’n trafod ei llyfr: 'St George’s Hotel - A Victorian Legacy'.A chyfle ...
Cyfle i greu gwaith celf sef collage siâp calon yn defnyddio amryw o gyfryngau wedi’u hysbrydoli gan yr artist ‘Pop ...
Barddoniaeth wedi'i hysgrifennu a'i lleisio gan Martha Botros.
Crewyd animeiddiad yn ystod gweithdai gyda:
Myfyrwyr Ysgol y Gogarth
Clwb Animeiddio TAPE
Aelodau o'r gymuned leol yn Llyfrgell Bae Colwyn
Diwylliant Conwy | Ail-Ddychmygu Tŷ'r Congo/Y Sefydliad Affricanaidd