Conwy Culture CYM

Search website

Dyma Fi

Mae ‘Dyma Fi’ yn brosiect ar y cyd rhwng Oriel Colwyn a Cartrefi Conwy.

Mae partneriaeth greadigol a phellgyrhaeddol y prosiect wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru 2023.

Fel rhan o’r prosiect ‘Dyma Fi’, daeth tenantiaid Cartrefi Conwy yn enwogion am y dydd.

Syniad Paul Sampson, Curadur Oriel Colwyn, oedd y prosiect. Mewn partneriaeth â Nerys Veldhuizen, cyn Gydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn Cartrefi Conwy, eu gweledigaeth oedd rhoi cyfle i’r tenantiaid hŷn serennu ac adrodd eu hanesion.

Tynnwyd lluniau’r cyfranogwyr yn eu cartrefi eu hunain gan y ffotograffydd portreadau enwog, Niall McDiarmid. Nid ffotograffau yn unig mo’r portreadau hyn, ond rhan o hanes pob tenant. Tynnwyd ffotograffau hefyd o eitemau a oedd yn werthfawr i bob un o’r tenantiaid, a chasglwyd eu hanesion a’u sgyrsiau gan yr awdur a’r storïwr lleol, Gillian Brownson. Mae’r delweddau a’r testun yn gadael i’r tenantiaid adrodd eu straeon a rhannu pwt bach am eu bywydau gyda chi.