Pobl o Conwy
Cynhaliwyd sioe deithiol yn 2019 a wahoddodd bobl o bob cwr o Sir Conwy i rannu hanesion am y bobl yn eu cymunedau.
Defnyddiodd arddangosfa Pobl Conwy ffotograffiaeth bortreadol a hanesion llafar i ddathlu rhai o’r bobl hyn. Mae gwybodaeth i gyd-fynd â’r arddangosfa hon yn Llyfrgell Llanrwst yn defnyddio:
- Cymraeg
- Saesneg
- Iaith Arwyddion Prydain
- Is-deitlau hawdd eu darllen
- Trosleisio
Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfa a’r bobl sydd ynddi yma.