Conwy Culture CYM

Search website

Mary Thomas: TYPES-O-CYAN

Arddangosfa ddethol o brintiau Syano-lwmen unigryw yr artist lleol, Mary Thomas. Cafodd ei gwaith ei arddangos yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy tan fis Mai 2022.

Mae Mary Thomas yn artist Cymreig lleol a ddechreuodd ei thaith Ffotograffiaeth Amgen ar ôl ymddeol o’i gyrfa fel athrawes yn 2014. Yn ddechreuwraig lwyr o ran defnyddio syanoteip, buan iawn y bu iddi ganfod y dull creadigol yr oedd wedi bod yn chwilio amdano.

Mae Syano-lwmen yn gyfuniad o ddwy broses ffotograffig Fictoraidd, sef Syanoteip a Lwmen, ac yn defnyddio papur ffotograffig ystafell dywyll, toddiant syanoteip a phŵer UV i greu delweddau unigryw gyda deunyddiau organig ac/neu negatifau.

Mae gwaith Mary yn cynnwys arbrofi’n ddi-baid â’r ddwy broses wedi’u cyfuno, drwy ychwanegu cynhwysion cwpwrdd cegin fel Tyrmerig, halen, soda pobi, sebon a finegr gwan i’r dull. Mae ei chanlyniadau wastad yn annisgwyl ac yn creu delweddau unigryw na ellir eu hatgynhyrchu’n hawdd.

Cynhyrchwyd y printiau mawr a arddangosir yma yn wreiddiol ar gyfer Gŵyl Ffotograffiaeth Northern Eye, sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd ym Mae Colwyn, a chawsant eu harddangos ar Blatfform 2 gorsaf reilffordd y dref yn 2021.