Arddangosfa Prosiect 'Lleisiau'r Carneddau'
Prosiect celf ar y cyd gan Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau, yr ymarferydd celf Rachel Evans, disgyblion Ysgol Aberconwy ac Archifau Conwy yw ‘Lleisiau’r Carneddau’.
Wedi’u hysbrydoli gan hanes ffermio lleol a chwedlau gwerin amrywiol yn yr ardal mae’r myfyrwyr wedi cynhyrchu amrywiaeth o ddarnau sy’n adlewyrchu rhai o’r straeon y maent wedi’u clywed.
Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn ystafell gymunedol Canolfan Ddiwylliant Conwy o fis Rhagfyr 2022 tan fis Mawrth 2023.