Conwy Culture CYM

Search website

Transparent Language

Gall dysgwyr adeiladu geirfa, ymarfer sgiliau, a chynnal yr hyn maent wedi'i ddysgu gyda Transparent Language Online, sydd ar gael ar unrhyw adeg, yn unrhyw le mewn 110+ o ieithoedd.

Mae Transparent Language Online yn darparu profiad hwyliog, effeithiol ac ymgysylltiol i ddysgwyr o bob gallu sydd eisiau gwella eu sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu mewn iaith dramor.

Gan gyfuno cyrsiau heriol, geirfa ychwanegol ac adnoddau gramadeg, Transparent Language Online yw’r system ddysgu iaith mwyaf cyflawn. Gyda dros 100 o ieithoedd i ddewis ohonynt, yn cynnwys Saesneg i siaradwyr dros 30 o ieithoedd, mae yna rhywbeth i bob dysgwr. Gorau oll, gydag apiau symudol ar gyfer teclynnau iOS ac Android, gall dysgwyr fwynhau’r rhyddid i ddysgu gartref, yn y llyfrgell neu wrth fynd o le i le.

Cwrs hwyliog sydd yn addas i oedran ar-lein yw KidSpeak™ wedi’i ddylunio ar gyfer plant 6 oed a hŷn! Ar gael drwy Transparent Language Online, mae KidSpeak yn cyflwyno eich plant i Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Tsieinëeg Mandarin. Mae’r rhaglen yn addysgu geiriau a brawddegau sy’n addas i oedran, anghenion a diddordebau dysgwyr. Mae mwy na 40 o weithgareddau, posau a chaneuon yn tywys dysgwyr ifanc drwy’r elfennau sylfaenol, ynghyd â “chyfaill” cartŵn sydd yn siarad yr iaith. Mae KidSpeak™ yn gweithio ar gyfrifiaduron, dyfeisiau electronig a ffonau symudol - felly gall y plantos ddysgu wrth fynd o le i le, o gartref, neu yn y llyfrgell.