Chwarae a Darganfod
Mae sesiynau ‘Chwarae a Darganfod’ yn llawn o ddysgu hwyliog, wedi’u dylunio yn arbennig ar gyfer artistiaid bach i archwilio eu creadigrwydd, bod yn chwilfrydig a CHREU! Mae’n creu amgylcheddau a gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan ein harddangosfa, sydd yn llawn synhwyrau ac yn fywiog i chi a’ch plentyn ddarganfod a mwynhau.
Arweinir y sesiynau gan yr artist Ticky Lowe.
Gweithdai ar gyfer plant o dan 5 oed gyda’u hoedolion.
Canolfan Ddiwylliant Conwy,
Town Ditch Road,
Conwy,
LL32 8NU
I gofrestru, anfonwch e-bost at tickylowe@makingsensecic.org.uk